Y Cyfnod Sylfaen
Mae holl raglenni'r Cyfnod Sylfaen yn cwmpasu'r saith maes dysgu, gan daro cydbwysedd rhwng dysgu a arweinir gan y cyflwynydd a gweithgareddau a ddechreuir gan y plant.
Mae pob rhaglen yn cynnwys sioe Theatr Wyddoniaeth, amser ar lawr yr arddangosfa ymhlith y 120 o arddangosion a gweithgareddau ymarferol yn Den Delyth, a deunyddiau cyn ac ar ôl yr ymweliad, gan felly gynnig pecyn cyflawn o weithgareddau i athrawon i'w cynorthwyo wrth addysgu.
Mae pob cyflwyniad bywiog yn y Theatr Wyddoniaeth yn para tua 25 munud, ac yna bydd disgyblion yn crwydro o amgylch yr arddangosfa. Yma, fe'u tywysir gan eu chwilfrydedd eu hunain, a byddant yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o arddangosion rhyngweithiol sy'n eu hannog i arbrofi.
Bydd gan ddisgyblion amser i archwilio'r sgiliau a'r syniadau a gyflwynwyd yn y Theatr Wyddoniaeth drwy'r gweithgareddau ychwanegol yn Den Delyth.
Rhoddir camerâu digidol i athrawon fel y gallant gofnodi profiadau eu disgyblion. Yna caiff y delweddau eu lawrlwytho i gofbin - sy'n cynnwys adnoddau hefyd - a bydd modd i'r athrawon eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth er mwyn ehangu'r profiad dysgu.
Trefnu eich ymweliad â Techniquest
Am ragor o wybodaeth am Raglen Addysg Techniquest, neu i archebu lle, ffoniwch 029 2047 5476 neu Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .
Dim ond £3.95 y disgybl yw cost ymweld â Techniquest ym Mae Caerdydd. Gallai costau ychwanegol fod yn gymwys ar gyfer rhai rhaglenni. Mynediad am ddim i oedolion sy’n goruchwylio.