Datblygu Proffesiynol Parhaol
Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ddysgu Gwyddoniaeth (yr NSLC) wedi sicrhau cyllid er mwyn gallu cynnig cyfleoedd i athrawon Cymru dderbyn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Gwyddoniaeth o ansawdd uchel, a hynny yma yng Nghymru trwy gymorth Techniquest. Mae CBAC hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i gefnogi’r cynlluniau hyn. Bu Techniquest yn cydweithio gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Grŵp Ymgynghorwyr Gwyddoniaeth Cymru Gyfan, athrawon gwyddoniaeth, CBAC a’r Gymdeithas Addysg Wyddoniaeth (yr ASE), gan ddod i’r casgliad bod angen trefnu DPP yng Nghymru, a bydd pob un o’r cyrsiau a gynigir dan nawdd y cynllun hwn yn uniongyrchol berthnasol i’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.
Sgiliau Dysgu Gwyddoniaeth - Uwchradd
Mynychwch gwrs deuddydd i weld sut y gall gwella sgiliau dysgwyr mewn gwyddoniaeth helpu eich myfyrwyr i gael gwell graddau TGAU!
Cwrs Technegydd Profiadol - Y 3 Gwyddoniaeth
Cwrs 3 diwrnod am ddim, yn cynnwys bwrsariaeth, yn cefnogi'r technegydd profiadol... i fod yn fwy profiadol!




