Cymraeg | English

Ymweld â Bae Caerdydd

Techniquest yn eich ysgol

Dyddiau Babanod

Mathcymru

Addysgwyr Cartref

Cylchlythyr i Ysgolion

MSc

Nuffield

DPP

Cyrraedd yr Nod

Techniquest Glyndŵr

MSc

Mae MSc Prifysgol Caerdydd mewn Gwyddoniaeth, Cyfryngau a Chyfathrebu yn gydweithrediad arloesol rhwng Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd, Ysgol Newyddiaduraeth, Astudiaethau Cyfryngau a Diwylliant, a Techniquest. Mae’r cwrs blwyddyn llawn amser yn darparu i fyfyrwyr ymdriniaeth ryngddisgyblaethol ar gyfathrebu gwyddoniaeth. Mae’n datblygu sgiliau damcaniaethol cryf, ond mae hefyd yn cynnwys sgiliau ymarferol allweddol gyda’r myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn gwahanol gyd-destunau i wahanol gynulleidfaoedd.

Mae myfyrwyr yn ymgymryd â 6 Modiwl, a dau ohonynt yn cael eu dysgu yn Techniquest. Modiwlau Techniquest yw Astudiaethau Ymwelwyr, modiwl craidd gaiff, a Chyflwyno Gwyddoniaeth, modiwl dewisol gaiff ei ddysgu gan Gyflwynydd, Hyfforddwr a Thîm Gwerthuso Techniquest. Mae Astudiaethau Ymwelwyr yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r amrywiol ‘gyhoedd’, ac yn rhoi iddynt yr arfau i werthuso gweithgareddau STEM a ddatblygwyd ar gyfer cynulleidfaoedd penodol; mae Cyflwyno Gwyddoniaeth yn darparu hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn datblygu a chyflwyno gweithgareddau STEM i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Yn ychwanegol at y modiwlau a ddysgir, gall myfyrwyr ymgymryd â’u gwaith ymchwil ar gyfer eu traethawd yn Techniquest.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â www.cardiff.ac.uk/socsi/postgraduate

Techniquest