Cyrraedd y Nod
Mae Techniquest yn gyd-noddwr mewn menter newydd gwerth £49m ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, a elwir yn Cyrraedd yr Uchelfannau, gaiff ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) gyda nawdd cyfartal yn cael ei roi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a noddwyr cysylltiedig. Fel rhan o’r cynllun, bydd Techniquest yn datblygu a chynnal rhaglenni STEM trwy saith Both ranbarthol yn yr ardaloedd cydgyfeirio ar hyd a lled Cymru ar gyfer rhai 11 – 19 oed sy’n wynebu neu mewn perygl o wynebu anfantais neu dangyflawni, fel y gellir gwella’u cyfleon gyrfa.
Rôl Techniquest yn y prosiect 3 blynedd hwn yw dylunio, datblygu a chyflwyno rhaglen gyfranogi ar sail Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) fydd o fudd i bobl ifanc 11-19 oed ar hyd a lled Cymru sy’n wynebu neu mewn perygl o wynebu anfantais neu dangyflawni. Bydd rhaglenni allgymorth i ysgolion yn cael eu cynnal am ddim i ysgolion sydd yn gwneud cais i gymryd rhan ym mhrosiect Cyrraedd yr Uchelfannau am gyfnod o dair blynedd. Bydd pob rhaglen yn cael eu cynnal mewn ysgolion.
Dyluniwyd rhannau cyfansawdd y prosiect i gysylltu â’i gilydd er mwyn cynnig cymorth cyfannol i fyfyrwyr o flwyddyn 7 ymlaen. Yn ystod cyfnod y prosiect disgwylir y bydd y rhaglenni o fudd arwyddocaol i hyd at 29,100 o bobl ifanc ar hyd a lled yr ardal cydgyfeirio.




