Dyddiau Babanod
Unwaith y mis yn ystod y tymor ysgol, bydd plant bychan yn cael blaenoriaeth ar lawr arddangos Techniquest. Ceir gweithgareddau ychwanegol, yn cynnwys amser stori, lliwio a byrddau crefftau, a'r cyfan yn cael ei anelu at annog plant cyn-ysgol i gymryd eu camau cyntaf ym myd gwyddoniaeth. Anogir rhieni a gwarchodwyr i ymuno.
Mae lliwiau llachar y llawr arddangos yn apelio at blant ifanc, gaiff eu hannog i archwilio. Mae Techniquest yn hwylus i goetsys, ac mae yma gyfleusterau newid clytiau, loceri, a chaffi all gynhesu bwyd a llaeth babanod.
Cost mynediad i Ddyddiau Babanod yw £4.60 i rieni a mynediad am ddim i rai dan 4 oed. Dylai grwpiau o 10 neu ragor fwcio ymlaen llaw.
*Gofynnwch am gerdyn Babanod Techniquest ac arbed arian. Ymwelwch bum gwaith a chasglu pum stamp a bydd eich chweched ymweliad am ddim.
Dyddiadau’r Dyfodol
|
2012 |
|
|
Gwe |
3 Chwef |
Pets |
|
Gwe |
2 Maw |
Daffodils and Dragons |
|
Gwe |
30 Maw |
Rainbows |
|
Gwe |
11 Mai |
Music |
|
Gwe |
1 Meh |
|
Water & Bubbles |
Gwe |
6 Gorff |
|
Summer Fun |




