titletitle

Cynllun Grantiau Mathcymru

Mae grantiau mathemateg hyd at £1,000 ar gael i ysgolion ar gyfer prosiectau mathemateg sydd yn cwrdd â meini prawf y cynllun. Dylai’r prosiectau fod yn arloesol ac yn dangos y canlynol:

  • Mae’n rhaid i’r prosiect fod yn newydd, deniadol, arloesol a chael ei arwain gan athro neu athrawes.
  • Ni ddylai’r prosiect ddyblygu mentrau sydd yn bodoli yn barod neu rai sydd ar y gweill
  • Dylai’r prosiect arddangos agweddau cost effeithiol a chodi gwerth
  • Dylai’r cais gynnwys y dull gwerthuso a sut bydd modd mesur effaith y prosiect
  • Bydd yn rhaid i adnoddau fydd yn cael eu creu trwy’r prosiect fod ar gael i wefan mathcymru

Gall grantiau gynnwys:

  • Costau athrawon cyflenwi i ryddhau staff i baratoi a gweinyddu’r prosiect
  • Adnoddau sydd yn hanfodol i gwblhau’r prosiect ac na fedrir cynnal y prosiect hebddynt
  • Offer nad yw yn rhoi cyfrif am ran helaeth o’r arian

Nid yw grantiau yn cefnogi:

  • Offer ac adnoddau sydd yn rhoi cyfrif am ran helaeth o’r arian ac nad ydynt yn hanfodol i’r prosiect
  • Cyrsiau hyfforddi i athrawon
  • Costau teithio i ddisgyblion

Nodiadau ar gwblhau’r ffurflen gais

Mae’n rhaid i geisiadau fod ar y ffurflen swyddogol (lawrlwythwch ffeil yma), a darparu disgrifiad byr o’r prosiect mewn llai na 300 o eiriau.

Mae’n rhaid i’r cais:

  • Egluro’n glir sut y bydd yr arian yn galluogi i weithgareddau ddigwydd na fyddent yn bosib fel arall
  • Egluro sut y bydd yr arian yn cael ei wario trwy gynhyrchu dadansoddiadau costau ac o wariant y grant yn ogystal â chyfanswm yr arian grant a geisir amdano hyd at uchafswm o £1000 sydd ar gael gan mathcymru
  • Nodi amcanion y prosiect a’r meini prawf bydd yn cael eu cwrdd
  • Cyflwyno targedau clir a chanlyniadau fydd yn fesuradwy ac yn cael eu gwerthuso
  • Nodi’n glir pryd bydd y prosiect yn digwydd (DS bydd yn rhaid i brosiectau llwyddiannus gael eu cwblhau ac unrhyw arian ei wario neu ei ymrwymo trwy gontract erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.)
  • Nodi’n glir ystod oedran y disgyblion neu’r Cyfnod Allweddol y bydd y prosiect yn anelu atynt
  • Amcangyfrif nifer y disgyblion fydd yn ymwneud â’r prosiect
  • Darparu tystiolaeth bod ystyriaeth wedi ei roi i Iechyd a Diogelwch .

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cwblhau, arwyddo a’u dychwelyd at Sian Ashton, Mathcymru, Techniquest, Stryd Stuart, Caerdydd, CF10 5BW erbyn 0.

Bydd bwrdd gwerthuso prosiectau yn asesu pob cais am arian ac yn hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod yr wythnos ganlynol.

Oherwydd bod cyfanswm cyfyngedig o gyllid ar gael ar gyfer y cynllun grantiau ni fydd rhai ceisiadau yn derbyn arian er eu bod yn cwrdd â’r holl meini prawf, neu byddent yn derbyn peth o’r arian a geisir.

Adroddiad prosiect terfynol

Bydd yn rhaid cyflwyno adroddiad prosiect terfynol gyda lluniau unwaith i’r prosiect gael ei gwblhau.

Dylai adroddiadau gynnwys:

  • Dogfen 300 o eiriau, gyda lluniau, addas ar gyfer ei gyhoeddi yn nhaflen newyddion a/neu gwefan mathcymru
  • Crynodeb o’r amcanion ynghyd â gwerthusiad wedi ei fesur yn erbyn y meini prawf a nodwyd yn y cais gwreidiol
  • Asesiad o ddyfodol y prosiect a’r canlyniadau dysgu

Bydd yn rhaid i’r adroddiad gael ei gwblhau a’i anfon at Siân Ashton (sian@techniquest.org) o fewn pedair wythnos o gyflawni’r gweithgaredd a arianwyd.

Mae enghraifft o gais llwyddiannus i'w gael yma.

Ffurflen gais