Cynllun Grantiau Mathcymru
Cynllun Grantiau Mathcymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid ar ffurf grantiau unwaith eto i ysgolion allu sefydlu prosiectau a gweithgareddau mathemateg. Cynigir yr uchafswm o £1,000 ar gyfer prosiect unigol. Gall y prosiect fod yn gysylltiedig ag Wythnos Fathemateg Cymru ym mis Hydref, ond nid oes rhaid cwblhau y prosiect yn ystod yr wythnos penodol.
Mae'r drefn o gyflwyno cais yn un syml a chewch eich annog i ddal ar y cyfle hwn i wneud hynny. Gofynnwn i chi ddarllen y canllawiau er mwyn gofalu bod eich rosiect/gweithgaredd yn cwrdd y meini prawf angenrheidiol, ac er mwyn sicrhau bod gennych y siawns gorau o dderbyn cefnogaeth ariannol. Y dyddiad cau i geisiadau yw *********. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi e-bostio Siân Ashton, Cydlynydd Mathcymru, sian@techniquest.org neu ffonio 029 20 475 475.
Rhaid i bob cais gael ei gymeradwyo gan bennaeth yr ysgol. Un cais yn unig a ganiateir i bob ysgol, er bod prosiectau sy'n cyfuno mwy nag un gweithgaredd yn cael eu hannog.









 sml.gif)