Faint yw Biliwn?
Mae poblogaeth y byd ychydig dros 6 biliwn. Pob eiliad mae pum person yn cael eu geni ond dim ond dau sy’n marw. Os bydd hyn yn parhau byddai poblogaeth y byd yn dyblu pob 40 blynedd, sy’n golygu erbyn 2043 byddai 12 biliwn o bobl. Yn ffodus, nid yw’r Cenhedloedd Unedig yn meddwl bydd y gyfradd hon yn parhau, maent yn rhagweld bod poblogaeth y byd yn mynd i gyrraedd 12 biliwn mewn 120 o flynyddoedd.
Rhai ffeithiau biliwn eraill:
Mae biliwn o eiliadau yn hafal i tua 31 o flynyddoedd.
Mae biliwn o oriau yn 114,077 o flynyddoedd.
Mae biliwn diwrnod yn cymryd 2,737,850 o flynyddoedd.
Mae biliwn centimetr yn 6,250 o filltiroedd (Y pellter o Lundain i Johannesburg, De Affrica).
Byddai un biliwn o geiniogau ochr wrth ochr yn ymestyn 12,626 o filltiroedd (tua’r pellter o Lundain i Sydney, Awstralia).










 sml.gif)