titletitle

Beth yw rhifau cysefin?

Ystyrir rhifau cysefin fel arfer i fod y rhifau sydd ddim yn gallu cael eu rhannu i rif cyfan arall. Nid yw hyn yn berffaith gywir gan fod 2 ffactor gan rif cysefin trwy’r amser, sef y rhif 1 a’r rhif ei hun (ffactor yw rhif sy’n gallu rhannu i mewn i rif arall yn union). Oherwydd y rheol hon, nid yw 1 yn rhif cysefin gan fod ganddo un ffactor yn unig (h.y. 1).

Y deg rhif cysefin cyntaf yw:
2 3 5 7 11 13 17 19 23 29

Mae rhifau cysefin wedi tanio dychymig mathemategwyr ers canrifoedd ac mae ganddynt rhai priodweddau unigryw.

  • 2 yw’r unig rif cysefin sy’n eilrif (mae’r gweddill i gyd yn odrifau).
  • Nid yw rhif cysefin heblaw 5 yn gallu gorffen â rhif 5
  • Ar ôl y rhifau cysefin un digid (2,3,5,7) mae pob rhif cysefin arall yn gorffen â 1, 3, 7 neu 9.
  • Os yw rhif cysefin (heblaw 2 neu 3) yn cael ei gynyddu neu ostwng gan 1, bydd un o’r rhifau canlyniadol yma’n gallu cael ei rannu gan 6 pob tro. (e.e. 19-1=18, 59+1=60 a.y.b.)

Credir hefyd bod pob eilrif heblaw 2 yn gallu cael ei wneud trwy adio dau rif cysefin gyda’i gilydd e.e. 6=3+3, 8=5+3, 28=13+15, 64=61+3 a.y.b.). Does neb wedi profi neu wrthbrofi hyn eto!

Wrth i chi fynd i rifau uwch….1000, 2000, 3000…..mae’r nifer o rifau cysefin ym mhob mil yn mynd yn llai. Ond beth yw’r rhif cysefin fwyaf sydd wedi ei ddarganfod hyd hyn? Yr ateb yw 26972593-1, sydd â dros ddwy filiwn o ddigidau! Cafodd ei gyfrifo yn 1999 trwy ddefnyddio cyfrifiaduron ac mae’n debygol o gael ei guro wrth i gyfrifiaduron mwy a mwy pwerus cael eu defnyddio i chwilio am rif cysefin uwch!

Ceisiwch rhai o’r posau yma sy’n ymwneud â rhifau cysefin. (Ffynhonnell: “The Number Detective” gan John Millington, Cyhoeddiadau Tarquin a “Mathematical Snacks” gan John Millington, Cyhoeddiadau Tarquin). Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar www.tarquin-books.demon.co.uk

Rhif Cysefin Arbennig

Pa rif cysefin yw hwn?

Mae dau ddigid ganddo a phan fydd y digidau’n cael eu hysgrifennu yn y drefn arall mae’r rhif canlyniadol hefyd yn rif cysefin.

Os yw’r ddau ddigid yn cael eu hadio gyda’i gilydd mae’r rhif yma hefyd yn rif cysefin.

click here to reveal the answer

Mae dau ddigid ganddo a phan fydd y digidau’n cael eu hysgrifennu yn y drefn arall mae’r rhif canlyniadol hefyd yn rif cysefin – o’r mynegiad yma mae 11, 13, 31, 17, 71. 37, 73, 79, 97 i gyd yn bosibiliadau. Ond, mae cyfanswm y ddau ddigid hefyd yn rif cysefin – a gan fod yr holl rifau uchod yn rhoi eilrif pan fydd y ddau ddigid yn cael eu hadio, yr ateb bydd y rhif sy’n rhoi’r unig eilrif sydd hefyd yn rif cysefin (sef 2). Felly 11 yw’r ateb!

 

Pa Rif Cysefin?

Pa rif cysefin dau ddigid yw hwn?

Mae gwahaniaeth o 4 rhwng rhifau’r ddau ddigid.

Mae tynnu 1 o’r rhif cysefin hwn yn rhoi rhif sgwâr (rhif sgwâr yw’r ateb pan gaiff unrhyw rif ei luosi â’i hunan).

click here to reveal the answer

Mae gwahaniaeth o 4 rhwng dau ddigid y rhif cysefin hwn – mae 37, 59 a 73 yn bosibiliadau. Mae tynnu 1 o’r rhif hwn yn rhoi rhif sgwâr – felly cawn 36, 58 a 72 ac o’r rhestr yma yr unig un sy’n rhif sgwâr yw 36 (6x6). Felly, yr ateb i ‘Ba Rif Cysefin’ yw 37.

 

Rhif dirgel

Pa rif pedwar digid yw hwn?

Mae’n sgwâr perffaith o rif cysefin (sgwâr perffaith yw’r ateb pan gaiff rhif cyfan ei luosi gan ei hunan).

Mae’n darllen yr un peth wyneb i waered!

click here to reveal the answer

Yr ateb yw 6889

Ffeithiau Fibonacci

fibonacci more

Faint yw biliwn?

billionmore

A oeddech chi'n gwybod

Recorde more