Cwestiynau Cyffredin
Pryd fydd dyddiad Wythnos Mathemateg Cymru yn cael ei hysbysebu?
Mae dyddiad Wythnos Mathemateg Cymru yn cael ei benderfynu unwaith i’r arian gael ei sicrhau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fel arfer caiff ei warantu ddiwedd Mawrth, yna cytunir ar y dyddiad.
Os hoffech leisio barn ar yr amser gorau yn y flwyddyn ysgol cysylltwch â mathcymru.
Pam bod fy nghais am grant heb fod yn llwyddiannus?
Mae’r gwobrau grant yn cael eu dyfarnu gan banel o feirniaid allanol annibynnol a chynrychiolwyr o mathcymru. Yn aml mae prosiectau haeddiannol iawn yn methu ennill arian oherwydd nad yw’r canllawiau wedi eu cwrdd yn glir. Mae nifer o geisiadau yn methu am nad ydynt yn rhoi manylion gwariant, neu eu bod yn pwysleisio gormod ar adnoddau a hyfforddi heb roi manylion y prosiect.
Mae ffug enghraifft o gais llwyddiannus i’w gael yn yr adran grantiau mathemateg.
Sut mae bwcio cit mathemateg?
Cysylltwch â nicola@techniquest.org os ydych am fanylion ar pryd mae’r citiau ar gael ac I fwcio cit.
Sut mae cofrestru ar gyfer y daflen newyddion mathemateg?
Cofrestrwch yma os ydych am dderbyn copi o’r daflen newyddion









 sml.gif)