titletitle

Croeso i'r wefan newydd!

Mae Mathcymru wedi cael gweddnewidiad. Rydym yn gobeithio gwneud y wefan yn fwy hygyrch ac i ddarparu mwy o wybodaeth ac adnoddau i bob athro mathemateg. Dywedwch eich barn wrthym drwy’r adnodd ‘Cysylltwch â ni.’

Newyddion Mathcymru

Fe gewch y newyddion diweddaraf am fathemateg ledled Cymru yn nhaflen newyddion mathcymru. Darganfyddwch pa ysgolion sydd wedi ennill grantiau mathcymru i ehangu ar eu gwersi.

Croeo i wefan mathcymru

Mae Mathcymru yn gynllun ledled Cymru sydd â’r bwriad o ddarparu cefnogaeth i athrawon, dosbarthu arian grant, cynnig cyfleoedd i gynnal digwyddiadau mathemateg, ac i hybu dyrchafu safonau mathemateg mewn ysgolion ledled Cymru.

Rydym yn croesawu pob ymateb ac awgrym ynglŷn â sut y gellir gwella’r gwasanaeth. Defnyddiwch y wefan hon i gysylltu â ni ac i gael y mwyaf o’r cynllun hwn a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r cynllun yn berthnasol i bob cam yng nghynnydd addysgiadol disgyblion mathemateg yn y Dywysogaeth, o’r Sylfaenol i’r lefel Uwch. Ar y tudalennau gwe hyn cewch hyd i adnoddau, gwybodaeth am offer mathemateg, sioeau teithio mathemateg, cael mynediad at wasanaethau mae mathcymru yn eu darparu i wythnos mathemateg, a dolenni eraill i fentrau a gwefannau eraill, gyda phob un ohonynt wedi’u hargymell gan gynghorwyr proffesiynol mewn addysg mathemateg.