Darlithwyr Mathemateg
Trwy’r cynllun mathcymru mae cyfle i chi gynnal darlith fathemateg yn rhad ac am ddim i’ch myfyrwyr mathemateg Safon Uwch.
Bydd darlithwyr ymweldiadol, gydag ystod o bynciau mathemateg deniadol a chyffrous, yn cyflwyno darlithoedd safonol i’ch disgyblion. Mae’r darlithwyr hyn yn bobl proffesiynol o brifysgolion megis Rhydychen, Leeds a Warwick gydag ysgolion Mathemateg cryf. Mae’r niferoedd yn y gynulleidfa wedi amrywio o 30 i 130 o ddisgyblion. Os oes ysgol gyfagos hoffai’r cyfle i ddod atoch ar gyfer y ddarlith byddai hynny’n fodd i ysgolion elwa gyda’i gilydd ac i ehangu cyfranogi.
Mae pynciau yn y gorffennol wedi cynnwys:
- Pan mae mathemateg yn cwrdd â Seicoleg – sut gall mathemateg helpu agwedd mwy beirniadol a rhesymoledd
- Lara Croft a’r Mathemateg cynnyrch Sgalar Triphlyg – y defnydd o fathemateg mewn gemau cyfrifiadurol a’r rhyngrwyd
- Mathemateg a Hud a Lledrith – o driciau cardiau syml i gôdau cyfrinachol a diogelwch y rhyngrwyd
- Dal fi os medri di – Mathemateg gweithgaredd gan ddefnyddio algebra a calculus, wedi ei gymhwyso i gemau bob dydd
Dim ond 5 darlith y flwyddyn sydd ar gael. Os hoffech gymryd mantais o’r cynnig yma i’ch ysgol yna cofrestrwch â mathcymru.
Cysylltwch â sian@techniquest.org









 sml.gif)