Mathamagicians
A yw eich Ysgol Gynradd chi wedi ei dewis eto i dderbyn ymweliad am ddim gan Mathamgician yn ystod Wythnos Mathemateg Cymru?
Bob blwyddyn mae peth o gronfa mathcymru yn cael ei chlustnodi i ariannu ymweliad diwrnod cyfan gan fathemategydd teithiol proffesiynol. Ar hyn o bryd mae pedwar mathemategydd sydd yn ymweld â’r pedair ardal ddaearyddol o Gymru. Byddent yn treulio un diwrnod yn eich ysgol yn cyflwyno gweithgareddau a sioeau deniadol i faint bynnag o ddisgyblion o ba bynnag gyfnod allweddol y dewiswch chi.
Trefnir yr ymweliadau trwy gydgysylltwr mathcymru ac mewn ymgynghoriad â’r mathemategydd. Chi fydd yn dewis dyddiad yr ymweliad.
Ymysg y mathemategwyr sydd yn cymryd rhan mae:
- Paul Godding – De Ddwyrain Cymru
- Paul Stephenson – Gogledd Cymru
- Gerry Walker – Canolbarth a De Orllewin Cymru
- Selwyn Van Zeller – Canolbarth Cymru
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweliad am ddim yn 2010 cofrestrwch â sian@techniquest.org 02920 475 475

Buttington Trewen yn cael hwyl yn ystod ymweliad gan Selwyn Van Zeller









 sml.gif)