Canllawiau Cynllun Grant mathcymru

Mae grantiau mathemateg o hyd at £400 ar gael i ysgolion ar gyfer prosiectau mathemateg sy'n bodloni meini prawf y cynllun.*

Meini prawf
Dylai prosiectau fodloni'r meini prawf canlynol:

Rhaid cynnig adnoddau a gynhyrchir yn sgîl y prosiect ar wefan mathcymru.

Gall y grantiau gynnwys y canlynol:

Ni fydd y grantiau'n cefnogi'r canlynol:

*Nodwch fod cyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y cynllun grant yn gyfyngedig ac efallai na chaiff rhai cynigion sy'n bodloni'r holl feini prawf a nodir eu hariannu, neu efallai y cânt eu hariannu'n rhannol yn unig.

Nodiadau ar gwblhau'r ffurflen gais

Rhaid gwneud ceisiadau drwy lenwi'r ffurflen gais swyddogol (lawrlwythwch y ffeil yma). Sicrhewch eich bod yn bodloni pob un o'r meini prawf uchod, ac atebwch y tri chwestiwn o dan y pennawd 'Cynllun gweithredu ar gyfer y prosiect'. Efallai yr hoffech ystyried y canlynol hefyd:

Nodwch:

Caiff pob prosiect a ariennir ei gynnwys ar wefan mathcymru.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rhaid i geisiadau gael eu cwblhau, eu llofnodi a'u dychwelyd at Tina Crimp, Techniquest, Stuart Street, Caerdydd, CF10 5BW neu at tina@techniquest.org erbyn 5pm ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2011.

Bydd panel o feirniaid yn asesu pob cais am arian ac yn cysylltu gyda pob un o’r ymgeiswyr i’w hysbysu o’u penderfyniad erbyn dydd Gwener, Rhagfyr 16, 2011. 

Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni thrafodir y penderfyniad.

Adroddiad ar y prosiect terfynol

Ar ôl cwblhau'r prosiect, rhaid cyflwyno adroddiad ar y prosiect terfynol i Techniquest (i: tina@techniquest.org ) erbyn dydd Llun 30 Ebrill 2012 fan bellaf. 

Dylai'r adroddiadau gynnwys:

Techniquest