Ffeithiau Maths
Dyfeisiwyd yr arwydd "yn hafal i" gan Robert Recorde. William Jones oedd y cyntaf i ddefnyddio'r lythyren Pi i ddisgrifio'r cymhareb mwyaf enwog yn y byd.
Ganwyd Robert Recorde yn Ninbych Y Pysgod, Sir Benfro yn 1510. Fe oedd mathemategwr blaenaf Prydain yn y 16eg ganrif. Trwy ei waith academaidd hynod, sefydlodd ysgol fathemateg Lloegr ac roedd yn un o'r cyntaf i gyflwyno algebra i'r wlad.
Cafodd Recorde ei gydnabod am ddatblygu'r arwydd "yn hafal i" yn ei llyfr "The Whetstone of Witte" yn 1557, er nad oedd yn boblogaidd nes y 1700au. Dewisodd ddefnyddio dwy linell byr paralel fel yr arwydd oherwydd, yn ei eiriau ei hun, "bicause noe 2 thynges can be moare equalle."?
Ganwyd y mathemategwr William Jones mewn tref bach o'r enw Llanfihangel Tre'r Beirdd, Sir Fôn yn 1657. Yn ei "Synopsis Palmariorum Mathesoes" yn 1706, defnyddiodd 16eg llythyren yn yr wyddor Groegaidd "Pi" i gynrychioli'r cymhareb o gylchedd cylch i'w diamedr. Yn y lle cyntaf, cafodd y cymhareb enwog yma ei enwi'n "y rhif Ludolphian" ar Ludolph van Ceulen, mathemategwr Almaenaidd. Gwerth y cymhareb yw tua 3.14, nid yw'n gallu cael ei gyfrifo i gywirdeb perffaith. Y cymeradwyaeth cynharaf i Pi oedd yn y scroll "Middle Kingdom paypyrus" a ysgrifennwyd tua 1650 CC.










 sml.gif)