mathcymru home maths facts games puzzles newsletters links
home maths facts games puzzles newsletters links
games
pentominoes game picture

Croeso i'n gweithgaredd newydd ar-lein, sef Pentominos, sy'n rhoi ffordd ddiddorol o archwilio siapiau a llenwi lleoedd gwag yng nghyd-destun pos. Mae pentominos yn siapiau 2D sydd wedi eu gwneud trwy uno 5 sgwâr gyda'i gilydd, ac mae 12 siâp gwahanol yn y set. Gellir cylchdroi'r siapiau a'u troi drosodd, ac mae'n bosibl eu defnyddio i archwilio llawer o gysyniadau mathemategol.

Mae pentominos yn rhan o grwp mwy, sef y Polyominos. Polyominos yw'r enw cyffredinol ar siapiau plân (2D neu wastad) sy'n cael eu gwneud trwy uno sgwariau gydaii gilydd (rhaid uno'r sgwariau'n union, ymyl wrth ymyl, fel eu bod yn cwrdd wrth eu corneli). Mae polyominos yn cael eu henwi yn ôl nifer y sgwariau a ddefnyddir i'w ffurfio. Felly, er enghraifft, mae dominos (2 sgwâr), triominos (3 sgwâr), tetrominos (4 sgwâr) ac ati. Wrth gwrs, y mwyaf o sgwariau a ddefnyddir, y mwyaf yw nifer y gwahanol siapiau y gellir eu ffurfio trwy uno'r sgwariau mewn gwahanol ffyrdd. Efallai y gallwch chi feddwl am gêm gyfrifiadur boblogaidd iawn sydd wedi ei seilio ar drefnu tetrominos?

play

Y Gem Gyfatebu

game picture

Ceisiwch pario'r cardiau gyfatebol yn yr amser lleiaf posibl
play

Llinellau Math

game picture

Gwnewch i bob golofn adio i fyny i'r cyfanswm ar ben y golofn
play

Solitaire

game picture

Ceiswch orffen gan adael un darn ar y bwrdd
play