mathcymru home maths facts games puzzles newsletters links
home maths facts games puzzles newsletters links
welcome to mathcymru.org
girls 4x4

Cylchwch eich Calendr - mae Wythnos Fathemateg Cymru ar y ffordd!

Mae Wythnos Fathemateg Cymru 2008 yn digwydd rhwng Hydref 6 – 10 ac y mae sialens fawr i’w chyflawni – sialens hwla hwp! Thema’r wythnos yw “Cylch o Gylch”, a bydd disgyblion o bob oed a medr yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau.

Hwla hwpio

Mae plant wedi chwarae gyda cylchyn hwla am miloedd o flyneddoedd – ond nawr gallant nhw dysgu mathemateg trwy chwarae! Gallwch chi cylchdroi cylchau hwla o gwmpas y gwasg, breichiau neu gwddf… cliciwch yma i ddarllen cyfarwyddiadau, a gweithgareddau i ddisgyblion o bob oed.

Archif Wythnos Fathemateg Cymru 2008

 

Darlithoedd

Bydd mathemategwyr blaengar yn darparu cyfres o ddarlithoedd fel rhan o Wythnos Fathemateg Cymru. Anelir y rhain yn benodol at ddisgyblion ôl-16, ac fe’u cyflwynir gan siaradwyr swynol sy’n bwriadu diddanu eu cynulleidfaoedd.

manylion yma

 

Cystadleuaeth

“Cylch o gylch” fydd thema Wythnos Fathemateg Cymru ym mis Hydref 2008 ac yn thema i gystadleuaeth newydd.   Gallwch chi gystadlu gyda llun digidol neu podlediad i ddehongli’r thema.  Gall athrawon a disgyblion ddechrau canolbwyntio ar y pwnc yn ystod yr haf ac yn nhymor yr hydref.  Bydd rhaid i geisiadau cyrraedd cyn dydd Gwener Tachwedd 7 2008.  Am fwy o fanylion cliciwch yma.

 

Y gystadleuaeth ffotograffau

Derbyniodd cystadleuaeth ffotograffau mathcymru amrywiaeth anferthol o gynigion.  Cymerodd plant mor ifanc â phedair oed ran yng nghystadleuaeth ffotograffau mathcymru. Thema’r gystadleuaeth oedd rhif a siâp a bydd rhai o’r cynigion yn ymddangos yn oriel mathcymru.
Yr enillwyr gwobrau oedd Alexa Jone-Young, Ysgol Gynradd Mayals, Abertawe (CA1); Shane Williamson, Ysgol Reolaeth Wirfoddol Hubberston, Sir Benfro (CA2); Liam Cashman, Ysgol Penglais, Aberystwyth (CA3).

Derbyniodd nifer o luniau eraill glod uchel gan y beirniaid.

Gallwch weld galeri o'r enillwyr a'r cynigion wnaeth dderbyn clod uchel yma.

Gellir gweld detholiad o'r cynigion eraill yma.

contacting mathcymru

Sioeau Teithio

roadshows

Mae’r sioeau teithio yn cynnwys gweithgareddau mathemateg ymarferol, gyda’r cyflwyniad cysylltiol wedi’i anelu at Gyfnodau Allweddol 2 a 3. Cysylltwch â ni yma am fwy o wybodaeth.

Cit Mathemateg

cola crate

Casgliad o weithgareddau ymarferol sy’n gofyn bod disgyblion yn datrys problemau yw'r Cit. Mae’n ymdrin â rhannau amrywiol o’r cwricwlwm.  Yn gynhwysiedig, mae nodiadau cynhwysfawr i gynorthwyo athrawon.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Grantiau

Grantiau
Dosbarthwyd grantiau o hyd at fil o bunnoedd i gefnogi nifer o brosiectau’n amrywio o ddatblygu rhigymau sgipio i dyfu llysiau. Mae manylion llawn y prosiectau, ynghyd â syniadau sut i’w dyblygu, ar gael yma.