Sefydlwch arddangosion rhyngweithiol yn eich ysgol chi gyda’r casgliad yma o gemau a phosau. Mae’r casgliad o 11 arddangosyn yn hawdd i’w defnyddio, hawdd i’w cludo ac wedi’u dylunio i’w defnyddio mewn unrhyw gofod ysgol.
Mae mathcymru a Techniquest wedi bod yn cyd-weithio i ddatblygu’r Cit Mathemateg, casgliad o un ar ddeg o weithgareddau rhyngweithiol wedi’u dylunio ar gyfer ymchwilio i amrediad o egwyddorion mathemategol. Mae pob gweithgaredd yn dod gyda nodiadau athrawon eang sy’n amlygu’r cysylltiadau â’r cwricwlwm ac yn cynnwys y datrysiadau, problemau ymestynol yn ogystal â chynlluniau gwersi ar gyfer gwaith i ddilyn yn y dosbarth. Cafodd y Cit ei ddylunio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ac felly mae’n gweithio gorau gyda phlant rhwng 7 – 11 mlwydd oed, ond fe ellir ei ddefnyddio gyda disgyblion hyd at 15 oed i wella unrhyw cwrs maths gan fod pecyn ehangiad Cyfnod Allweddol 3 ar gael.
Mae pob gweithgaredd yn cefnogi datblygiad meddylfryd mathemategol; mae’r cysyniadau eraill y mae’n cefnogi yn cynnwys:
- Ymwybyddiaeth gofodol
- Cymesuredd a phatrymau
- Rhifo
- Dilyniannau
- Diffiniad problem
Cliciwch yma i lawrlwytho y nodiadau athrawon
Ffyrdd gall y Cit Mathemateg gweithio yn eich ysgol chi:
Y ffordd fwyaf lwyddiannus hyd yn hyn yw i ysgolion uwchradd ddefnyddio’r Cit fel rhan o’u deunydd hyrwyddiad yn ystod diwrnodau trawnsewid blwyddyn 6. Gwahoddwch eich ysgolion cyflenwi i’r ysgol i gael hwyl a sbri wrth ddefnyddio’r Cit! Mae nifer o ysgolion wedi defnyddio’r syniad yma’n llwyddianus er mwyn annog cysylltiad cryfach gyda’r disgyblion ieuengach. Cynllunio diwrnod agored i rieni - defnyddiwch y Cit i ddangos yr hyn mae’r ysgol yn cynnig o ran gweithgareddau dysgu ychwanegol.
Pris Llogi
Am argaeledd a phrisiau ffoniwch 029 20 475 476 os gwelwch yn dda.

