Grantiau i gynyddu’r brwdfrydedd dros fathemateg
Mae ysgolion detholedig wedi ennill grantiau o hyd at fil o bunnoedd i’w helpu i wireddu projectau uchelgeisiol a fydd yn ennyn diddordeb disgyblion mewn mathemateg.
Mae'r arian yn helpu gyda rhychwant o brosiectau amrywiol.
Ysgol Pencae
Ymhlith y disgyblion ieuengaf i gael budd o’r grant oedd y rhai yn adran y blynyddoedd cynnar yn Ysgol Pencae ym Mhenmaenmawr.
Mae’r ysgol wedi troi darn o dir bychan sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ardd ddysgu, lle gall plant helpu gyda thyfu ffrwythau a llysiau, gan ddatblygu eu sgiliau mathemateg yn y broses.
Gallwch weld Gardd Maths yr Ysgol yma.
Ysgol Gynradd Cwmpadarn
Yn Llanbadarn Fawr, mae'r plant yn dod i adnabod eu hamgylchedd gyda thaith sialens mathemateg unigryw. Dywedodd y cydlynydd mathemateg Lucy Davies bod Sgwâr Llanbadarn yn cynnwys adnoddau cyfoethog i ddatblygu hyder plant wrth ddelio â phroblemau.
Blwyddyn 5. Blwyddyn 6.
Wood Memorial School
Yn Saltney, roedd y rhieni a’r gymuned leol yn ymwneud â’r prosiect yn Wood Memorial School a ganolbwyntiodd ar fathemateg yn natur a’r amgylchedd adeiledig. Yn ddiweddar cafodd yr ysgol wobr Eco-ysgol y Faner Werdd ac mae am adeiladu ar hynny gyda thaith mathemateg ar gyfer pob oed.
Ysgol Morfa Rhianedd
Mae prosiect traws gwricwlaidd yn Llandudno wedi galluogi plant i asesu buddiannau tyfu eu llysiau eu hunain, o safbwynt iechyd ac ariannol, yn ogystal â defnyddio’u sgiliau mathemateg sylfaenol o bwyso, mesur a dadansoddi data. Mae’r ysgol wedi derbyn mil o bunnau.
Ysgol y Llan
Daeth mathemateg yn rhan o hwyl amser chwarae yn Chwitffordd ger Ffynnongroyw, diolch i grant o £980 i helpu wrth gyflawni prosiect i greu rapiau a rhigymau mathemateg. Dywedodd y brifathrawes Kath Royles bod y plant eisoes wedi dyfeisio gerddi mathemateg a'u bod wedi datblygu’r rhigymau yma i siantiau sgipio a gweithgareddau maes chwarae eraill.
Lawrlwytho fideo yma.
Ysgol Tir Morfa
Mae’r ysgol yn y Rhyl yn darparu ar gyfer plant rhwng tair a 19 blwydd oed gydag amrediad eang o anawsterau dysgu. Bwriadodd staff ddefnyddio’r arian i greu rhes o siopau tebyg i rai go iawn er mwyn helpu plant i ddysgu am arian a siopa.
Ysgol Gynradd Ystruth
Mae plant o 3 hyd 7 oed ym Mlaina yn gallu mwynhau mathemateg ar y maes chwarae diolch i “Linell Rhifau” fydd yn mynd â nhw i “safleoedd” gweithgareddau mathemateg.
Ysgol Gymraeg Rhiwfawr
Mae'r holl disgyblion yn yr ysgol wledig hon yn Nyffryn Abertawe wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau mathemateg diolch i grant o £500 ar gyfer prosiect trawsgwricwlaidd. Cymerodd y plant rhan mewn coginio, adeiladu a chynllunio gemau bwrdd.
Ysgol Uwchradd Argoed
Mae rhai disgyblion o flwyddyn 8 a 9 yn yr Wyddgrug wedi cael blas o fywyd athro er mwyn helpu myfyrwyr eraill gyda’u sgiliau rhifedd. Dywedodd yr athrawes Janice Grice bod y disgyblion wedi creu DVD sydd mor broffesiynol â phosibl o’u cyflwyniadau, y gellir eu defnyddio wedyn mewn dosbarthiadau eraill.
Ysgol Trewen
Mae plant rhwng 9 ac 11 yng Nghastell Newydd Emlyn wedi dysgu mathemateg tra’n astudio ffynonellau amgen o ynni. Roedden nhw’n astudio faint o ynni gafodd ei gynhyrchu gan ffynonellau gwahanol, gan ddatblygu eu sgiliau mathemateg yn cynnwys mesur a chasglu data.
Ysgol Penmaes
Mae llythrennedd, dawns, dinasyddiaeth a datrys problemau i gyd yn ffurfio rhan o’r prosiect, yn Aberhonddu, ar gyfer plant gydag amrywiaeth o anawsterau dysgu. Hefyd mae staff yn Ysgol Penmaes yn cynnwys plant o unedau arbennig eraill yn yr ardal yn rhai o’r gweithgareddau.
Ysgol Merllyn
Mae Disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o Bagillt yn helpu i greu helfeydd trysor mathemateg o gwmpas tir yr ysgol er mwyn i ddosbarthiadau eraill eu dilyn. Dywedodd y prifathro Steve Lewis bod y plant hefyd wedi helpu gwerthuso’r helfeydd trysor.
Ysgol Babanod Trallwng
Mae staff yn Trallwng, Pontypridd, wedi cynnwys y gymuned gyfan yn eu gweithgaredd wythnos mathemateg, trwy greu taith fathemateg ym Mharc Ynysangharad. Roedd y syniad hwn yn un o nifer a groedd y prosiect cyfan a amcanodd i fagu hyder mewn mathemateg a datrys problemau.
Taking Teddy to the Park. Magnificent Maths Trail.


