Mathemateg greadigol, wefreiddiol, llawn hud a lledrith!
Eleni eto, trefnwyd cyfres o ddarlithoedd diddorol a deniadol yn rhan o Wythnos Fathemateg Cymru.
Cynhelir y darlithoedd yn Rhydaman, Aberdâr, Cei Conna, Cross Keys, Dolgellau ac Abertawe, ac nid yw’n rhy hwyr i chi archebu eich sedd!
Lara Croft – y ferch anturus a lwyddodd i ddringo o gêm gyfrifiadur i fod yn seren y ffilmiau – arwres annisgwyl i gael ei chynnwys mewn sesiwn fathemateg, efallai. Ond bydd hi’n rhan o ddarlith gan y Dr Richard Lissaman yn Rhydaman ar 10 Hydref.
Bydd yr awdur a’r meddyliwr creadigol, Rob Eastaway, sy’n fwy adnabyddus am ei lyfrau How long is a piece of string? a Why do buses come in threes?, yn ysbrydoli mathemategwyr ifanc yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru, Ioan Fedyddiwr Sant, yn Aberdâr ar 8 Hydref. Enw’r darlith yw Ten ways to win a maths bet in the pub.
Bydd y Dr Paul Baxter, darlithydd mewn ystadegaeth ym Mhrifysgol Leeds, yn cynnal gweithdai yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Cei Conna, ar 7 Hydref. Teitl un o’r gweithdai hyn yw “Hela Ystadegau” lle bydd y gynulleidfa’n cael set o ddata i’w dadansoddi a darganfod eu tarddiad.
“Ceisiwch fy Nal” yw teitl darlith sydd i’w thraddodi yng Ngholeg Gwent, Cross Keys, ar 7 Hydref. Cred Steve Humble, sy’n cael ei adnabod hefyd fel y Doctor Mathemateg, y gellir addysgu egwyddorion sylfaenol mathemateg trwy gyfrwng arbrofion ymarferol, ac mae’n cynnig ei syniadau ei hun ar ddadansoddi trywydd.
Daw hud a lledrith y gyfres ddarlithoedd i’r amlwg ar y dydd Mercher yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau, dydd Mercher, 8 Hydref. Bydd y Dr Kevin Houston o Brifysgol Leeds yn dangos nifer o driciau cardiau rhyfeddol yn ystod ei ddarlith “Mathemateg, Hud a Lledrith”.
Bydd rhagor o hud i’w weld yn Abertawe, lle bydd David Acheson, cymrawd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn cyflwyno ei ddarlith “Mathemateg, Hud a’r Gitâr Drydan”. Cynhelir y ddarlith hon ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Mercher, 8 Hydref.
Bydd lleoedd yn brin ar gyfer pob un o’r digwyddiadau, felly er mwyn archebu eich seddau cysylltwch â mathcymru@techniquest.org neu ffoniwch 029 20 475 475.
