Cystadleuaeth: ffotograff neu podlediad eich hun – dewiswch chi!
Mae cystadleuaeth yn cael ei threfnu i ddarlunio thema Wythnos Fathemateg Cymru am eleni, sef Cylch o Gylch. Y wobr yw naill ai ymweliad â Techniquest neu ymweliad gwaith allanol gan Techniquest i’ch ysgol chi.
Daeth cannoedd o gynigion ardderchog i law yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth mathcymru fis Hydref diwethaf ar y thema Rhif a Siâp (gallwch weld detholiad ohonyn nhw yma). Ond y tro yma mae categorïau’r gystadleuaeth yn ehangach. Does dim rhaid i chi fod yn ffotograffydd o fri chwaith i gymryd rhan... yn lle tynnu llun gallech baratoi podlediad.
Thema Wythnos Fathemateg Cymru ar gyfer 2008 ydy Cylch o Gylch… felly byddem yn disgwyl gweld y cynigion ffotograffig yn cyfleu symudiad neu’n darlunio cylchoedd neu olwynion. Gallai’r podlediad fod yn canolbwyntio ar fectorau, neu’r fathemateg sy’n gysylltiedig â rasio ar ddwy olwyn yn y Gemau Olympaidd, neu rifau cylchog.
Gall ysgolion drefnu eu cystadlaethau mewnol eu hunain yn gyntaf ac wedyn anfon y deg cynnig gorau ym mhob gr?p oedran ymlaen i gael eu beirniadu’n derfynol. Dywed Dave Breen, cydlynydd mathcymru, “Gall y gystadleuaeth hon gynnig her i ddisgyblion ar bob lefel... mae’n gyfle iddyn nhw i gyd roi eu gwybodaeth ar waith ym mha ffordd bynnag sydd orau ganddyn nhw”.
Rhaid i bob cynnig cael ei lanlwytho i’r wefan, trwy ddefnyddio’r cyswllt isod, erbyn dydd Gwener, 7 Tachwedd.
RheolauDylid llwytho lluniau digidol (dim mwy na 750kb yma |

