Digwyddiadau ar gyfer Grwpiau Brownie, Cub a Beaver
- Brownies
- Beavers
- Cubs
Nosweithiau Sêr-syllu Brownie
Mae nosweithiau Sêr-syllu Brownie yn rhoi i baciau y cyfle i gael y bathodyn Sêr-syllu/Astronomeg mewn un noson yn unig. Yr hyn a geir ar y noson yw cyfres o sesiynau byrion sy’n cynnwys y canlynol: y sêr a’r planedau a pherthynas y Ddaear â hwynt, a sut mae astronomyddion yn astudio ffurfafen y nos. Cynhelir y nosweithiau o 6 - 8 pm a’r gost yw £5.50 y Brownie, gyda’r oedolion â gofal yn gwbl ddi-dâl.
Nosweithiau Gwyddoniaeth Brownie
Cynhelir y nosweithiau Gwyddoniaeth Brownie o 6 – 8 pm (drysau’n agored o 5.30pm), ac maent yn cynnwys ystod o weithgareddau ar gyfer grwpiau o tua 25. Y gost yw £5.50 y Brownie, gyda’r oedolion â gofal yn cael mynediad cwbl ddi-dâl. Yn ystod y noswaith bydd y Brownies:
- Creu Gwialenni Swigod.
- Creu a Rasio Rocedi Balwn.
- Creu a Defnyddio Seiloffon Poteli.
- Ymchwilio Grisialau Halen gan ddefnyddio meicrosgop camera.
- Archwilio Cylched Dynol a Thrydan Statig.
Nosweithiau Gweithgareddau Beaver
Bydd y noson yn darparu digon o brofiadau a deunyddiau adnodd ar gyfer cwblhau pob gwedd o’r Bathodyn Arbrofi. Bydd y Beavers:
- Yn cymryd rhan mewn arbrawf, yn ymholi canfyddiadau ac yn trafod y canlyniadau gyda’r tylwyth.
- Yn cwblhau llwybr arddangosfa: Caiff y Beavers gyfle i gwblhau arbrofion bychain mewn gorsafoedd gwaith, yn ychwanegol at sesiynau dysgu anffurfiol yn ystod yr arddangosfa.
Mae’r nosweithiau’n dechrau am 5.30pm ac yn gorffen am 7.30pm. Drysau’n agor am 5 pm. Y gost yw £5.50 y plentyn gyda’r oedolion â gofal yn cael mynediad cwbl ddi-dâl.
Bathodyn Astronomydd Cub
Bydd y noson yn darparu digon o brofiadau a deunyddiau adnodd ar gyfer cwblhau'r bathodyn Astronomeg. Bydd y Cubs yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau yn ymwneud â’r gofod, yn astudio’r system solar, ac yn dysgu am feini mellt ac eclipsio. Ceir sesiwn yn y Planetarium ar gyfer edrych ar ffurfafen y nos, a chyfle i edrych drwy delesgop. Cynhelir y noson o 6 - 8 pm a disgwylir i baciau gyrraedd Techniquest o 5.30 ymlaen. Y gost yw £5.50 y plentyn gyda’r oedolion â gofal yn cael mynediad cwbl ddi-dâl.
Bathodyn Gwyddonydd Cub
Rhowch help i’ch Cubs i ennill eu Bathodyn Gwyddonydd gyda thaith i Techniquest. Ceir dwy ran i’r noson, y Byd Ffisegol a’r Byd Byw. Ceir cyfres o sesiynau byrion fydd yn darparu profiadau a deunyddiau adnodd digonol ar gyfer pob gwedd o’r Bathodyn Gwyddonydd. Bydd pob arweinydd pac yn derbyn syniadau ar gyfer gwaith pellach fel dilyniant i’r ymweliad. Cynhelir y noson o 6 - 8 pm a disgwylir i baciau gyrraedd Techniquest o 5.30 ymlaen. Y gost yw £5.50 y plentyn gyda’r oedolion â gofal yn cael mynediad cwbl ddi-dâl.




