Gwybodaeth Gyffredinol i Grwpiau
Mae Techniquest yn lleoliad delfrydol ar gyfer ymweliadau grŵp. Gyda mwy na 120 o wahanol weithgareddau ac eitemau arddangos ymarferol yn y brif neuadd, mae yna ddigon yn llythrennol i ddiddanu pawb, o fabanod i deidiau a neiniau. Mae grwpiau sydd wedi bwcio eu hymweliadau ymlaen llaw yn gymwys i dderbyn prisiau gostyngedig ac yn aml gallant gael eu bwcio i mewn i sioe theatr wyddoniaeth gyhoeddus os yn briodol: gall bysiau a bysiau mini, ynghyd â chludiant grwpiau anabl, barcio o flaen yr adeilad.
Ceir mynediad cadair olwyn hwylus, yn cynnwys lifft, i bob rhan o’r adeilad. Trafodwch eich anghenion penodol gyda ni wrth i chi fwcio.




