Llogi Preifat
Mae Techniquest yn leoliad i’w gofio. Mae’n hadeilad, sydd wedi ennill cymeradwyaeth am bensaernïaeth, yn agos at y Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru ac yn rhoi golygfeydd trawiadol ar draws Bae Caerdydd. Mae’n cynnig lleoliad llawn dychymyg ar gyfer digwyddiadau ffurfiol neu anffurfiol, ymysg dros 120 o arddangosion gwyddoniaeth ymarferol.
Mae Techniquest wedi profi ei hun i fod yn leoliad delfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, gan gynnwys seremonïau gwobrwyo, digwyddiadau cymdeithasol i staff, seminarau, brecwast priodas a llawer mwy. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i wneud pob dygwyddiad yn unigryw. Trwy ein profiad o weithio gydag ystod eang o gleientiaid dros lawer o flynyddoedd rydym wedi meithrin y sgiliau i’n galluogi i deilwra unrhyw ddigwyddiad i gydfynd â’ch gofynion arbennig chi.
![]() |
Gellir addasu’r neuadd arddangos i gynnwys llwyfan ac i ddangos brandio ac addurniadau o’ch dewis chi fel cwmni neu fudiad. Mae’r Theatr Wyddoniaeth yn cynnig lle rhwydd ar gyfer cyflwyniadau lle bydd hyd yn oed y siaradwr mwyaf nerfus yn teimlo’n gartrefol. Yno hefyd mae offer clyweled gwych a lle i hyd at 100 o westeion.
Gall Techniquest gynnig ystod o wasanaethau fydd yn sicrhau bod eich digwyddiad chi yn un i’w gofio. Bydd eich gwesteion wedi eu swyno gyda’n arddangosfeydd gwyddoniaeth ar y pryd, gwnewch iddynt feddwl gyda sialens offer arddangos, neu ymlaciwch o dan y sêr yn ein Planetariwm digidol.
![]() |
Gyda dros 15 mlynedd o brofiad, mae ein arlwywyr, Cafe Quest, yn cynnig dewisiadau arlwyo sydd cyn gofiadwy â’r lleoliad ei hun. O canapes i brydau bwyd tri chwrs, mae popeth yn cael ei goginio yn y fan a’r lle gyda rhywbeth at ddant – a phoced – pawb. Gellir darparu prydau bwyd llawn i hyd at 100 o westeion a bwffe i hyd at 300.
Trwy ddewis Techniquest fel lleoliad ar gyfer eich digwyddiad, dydych ddim yn unig yn sicr o gael achlysur i’w gofio ond rydych hefyd yn cefnogi’r gwaith pwysig yr ydym ni yn ei wneud fel elusen.
Yn flynyddol rydym ni’n gweithio gyda dros 40,000 o blant ysgol yn ein canolfan ym Mae Cerdydd, a dros 60,000 o ddisgyblion ar ben hynny, yn eu hysgolion dros Gymru gyfan. Rydym hefyd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac yn mynychu digwyddiadau cymunedol ar draws y wlad. Ein nôd yw i ddenu sylw pobl at wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a’u hysbrydoli i ddysgu mwy.
|
Lawrlwytho bwydlenniBwffe Canape |
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni am bris, neu ffoniwch 029 2047 5484 i siarad gyda’n tîm digwyddiadau heddiw.







