| |
Mae Caffi Gwyddoniaeth Cymru yn lle, am bris paned o goffi neu wydraid o win, gall unrhyw un archwilio'r syniadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.
Bob mis rydym yn croesawu arbenigwr blaenllaw mewn maes penodol i gyflwyno trafodaeth anffurfiol. Gallwch eistedd yn ôl, ymlacio gyda diod a gwrando, neu gyfrannu at y drafodaeth.
ar y chwith er mwyn darganfod beth sy’n digwydd mewn Caffi Gwyddoniaeth lleol i chi.
Rydym wedi cytuno i hyrwyddo ymrwymiad cyhoeddus â gwyddoniaeth a gwneud gwyddoniaeth yn atebol. Cynhelir digwyddiadau Caffi Gwyddoniaeth Cymru mewn lleoliadau anffurfiol yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. Maent yn anffurfiol a gellir mynychu’n rhad ac am ddim. Maent fel arfer yn dechrau gyda chyflwyniad byr gan y siaradwr, gwyddonydd neu awdur fel arfer, cyn cael toriad byr er mwyn ail-lenwi eich gwydrau cyn parhau gyda rhyw awr o drafodaeth. Mae’r pynciau blaenorol wedi cynnwys deunydd tywyll, annwyd cyffredin, Doctor Who, y Glec Fawr a thriniaethau amgen.
Cynhaliwyd y Cafes Scientifiques cyntaf yn y DU yn Leeds ym 1998. Wedyn, lledaenodd y caffis ar draws y wlad. Ar hyn o bryd mae rhyw bedwar deg o gaffis yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn clywed gwyddonwyr ac awduron gwyddonol yn trafod eu gwaith gyda chynulleidfaoedd amrywiol.
|