Y Cyfnod Sylfaen yn Eich Ysgol

Children learning about weather

Mae holl raglenni'r Cyfnod Sylfaen, a gaiff eu lansio'n llawn ym mis Medi 2012, yn cwmpasu'r saith maes dysgu, gan gynnig pecyn cyflawn o weithgareddau i athrawon i ategu'r hyn a addysgir ganddynt. Ond peidiwch ag aros tan fis Medi - mae digon o weithgareddau cyffrous ar gael i'w harchebu nawr!

Dewiswch o blith diwrnod o weithdai her, sioeau neu sesiynau Planetariwm yn Labordy'r Sêr Techniquest sy'n symudol ac wedi'i lenwi ag aer. P'un bynnag sy'n mynd â'ch bryd, mae pob opsiwn yn cynnig profiad rhyngweithiol iawn i bob disgybl, yn ogystal ag adnoddau ategol cyn ac ar ôl yr ymweliad.

Mae'r holl raglenni wedi'u cynllunio i annog disgyblion i ddysgu drwy ymchwilio, trafod a chydweithredu. Rhaid i ddisgyblion nodi, casglu a threfnu gwybodaeth er mwyn ateb cwestiynau a chyflawni heriau.

Caiff ymweliadau gan ysgolion eu trefnu ymlaen llaw dros y ffôn fel y gall athrawon ganolbwyntio ar y profiad dysgu yn llwyr ar y diwrnod.

Am ragor o wybodaeth am gostau rhaglenni Techniquest a ddarperir yn eich ysgol ffoniwch 029 2047 5476 neu Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .

  • Starlab

    Planetariwm symudol wedi'i lenwi ag aer yw Labordy'r Sêr Techniquest sy'n ail-greu ffurfafen y nos yn neuadd eich ysgol. Gellir ei lenwi ag aer mewn llai na hanner awr ac mae'n hawdd tynnu'r aer ohono fel bod modd defnyddio'r neuadd at ddibenion eraill yn ystod y dydd.

    Bydd cyflwynwyr Techniquest yn trefnu pob sesiwn yn Labordy'r Sêr ar sail cyflwyniad fideo sy'n para am 20 munud, a ddilynir gan daith o amgylch yr awyr dan arweiniad cyflwynydd lle bydd y myfyrwyr yn adnabod sêr, planedau a chytserau yn ffurfafen y nos!

    Gall cyflwynwyr hynod brofiadol Techniquest deilwra sioeau yn ôl oedran, gallu a gwybodaeth flaenorol disgyblion ,yn ogystal â'ch anghenion addysgol a'ch diddordebau. Os oes unrhyw agwedd benodol ar seryddiaeth yr hoffech i'r cyflwynydd ganolbwyntio arni yn ystod y daith seryddol, p'un ai'n wyddoniaeth neu chwedloniaeth, planedau neu sêr, mae croeso i chi drafod hyn wrth drefnu'r sioe neu gyda'ch cyflwynydd cyn y sioe.

    • Hyd y sioe: 30 - 40 munud
    • Uchafswm nifer yn y dosbarth: 30 o ddisgyblion
    • Uchafswm o chwe sesiwn y dydd
    • Gofynion: 4.2m o uwchben, 7.5m x 7.5m o arwynebedd llawr
    • a phrif gyflenwad trydan o 240v.

    Antur Estronwr

    Mae Zowie’r estronwr wedi dod i’r Ddaear ar ei wyliau, ond mae’n wahanol iawn i unrhyw beth y mae wedi’i weld o’r blaen! Wrth i Delyth y ddraig fynd â’i ffrind o amgylch ein planed, beth fydd Zowie yn ei feddwl o’r Ddaear o’i gymharu â gweddill cysawd yr haul? Pa fath o lefydd yw’r planedau eraill? Beth sy’n gwneud y Ddaear mor arbennig? Edrychwch i fyny ar ffurfafen y nos a darganfyddwch y sêr a’r planedau a welwch uwch eich pen. 

  • Sioeau

    Child playing with a Techniquest exhibitGwahoddwch Techniquest i ymweld â'ch ysgol a thrawsnewidiwch eich neuadd yn Theatr Wyddoniaeth! Mae sioeau amrywiol ar gael sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau. Mae'r sioeau'n annog disgyblion i gwestiynu syniadau a meddwl yn annibynnol.

    Mae pob sioe wedi'i chynllunio i ategu Cwricwlwm Cymru. Mae adnoddau ategol i'w defnyddio ar ôl yr ymweliad ar gael ar wefan Techniquest er mwyn ymestyn y profiad dysgu.

    • Hyd y sesiwn: 35 munud
    • Uchafswm nifer yn y dosbarth: 30 o ddisgyblion
    • Uchafswm o bedair sesiwn y dydd

    Trwbwl Teganau

    Addas i blynyddoedd 1 & 2.
    Mae Delyth wedi gwahodd ei ffrindiau draw i chwarae, ond mae ei chefnder bach drwg, Dilwyn, wedi creu annibendod yn ei hystafell ac wedi torri ei hoff deganau i gyd! Allwch chi helpu Delyth i dacluso drwy osod ei phethau mewn pentyrrau? Sut y gall Delyth drwsio ei char bach er mwyn iddo symud heb i unrhyw un ei gyffwrdd a gwneud i'w thegan cydbwyso weithio eto? Ond mae hoff degan Dilwyn wedi torri hefyd: helpwch Delyth i drwsio ei roced er mwyn iddo allu hedfan fry yn yr awyr ac wedyn gall pawb chwarae'n hapus unwaith eto.

    Gofidion Corfforol

    Addas i blynyddoedd 1 & 2.
    Mae cefnder bach drwg Delyth, Dilwyn, yn sâl. Allwch chi helpu Delyth i benderfynu beth sy'n bod arno? Archwiliwch y gwahanol rannau o'r corff, gan ystyried beth allai fod yn gwneud i Dilwyn deimlo mor sâl. Darganfyddwch beth sydd o dan eich croen a dysgwch enwau'r organau a sut y maent yn eich cadw'n iach. Ydy Dilwyn wedi bod yn bwyta gormod o losin? Helpwch Delyth i gynllunio cinio iach iddo er mwyn sicrhau na chaiff fola tost eto!

    Crewyr Cerddoriaeth

    Addas i ddosbarth derbyn a blynyddoedd 1 & 2.
    Mae'n gas gan y Tywysog Harri Hyllbeth gerddoriaeth ac mae am fwrw swyn er mwyn sicrhau bod pawb yn anghofio cerddoriaeth am byth! Allwch chi helpu Delyth i achub cerddoriaeth yng Nghymru drwy archwilio gwahanol fathau o gerddoriaeth a seiniau? Dysgwch sut i ddisgrifio ac adnabod gwahanol seiniau, a gweithiwch allan sut i ganu offerynnau anarferol. Helpwch Delyth i wneud twrw fel na wnaiff swyn y Tywysog weithio! Datgelwch y cod cerddorol er mwyn mynd i mewn i'r castell. Allwch chi ddod o hyd i ffordd o newid cloeon y castell ac anfon y Tywysog i ffwrdd?

    Dirgelwch Deunyddiau

    Addas i blynyddoedd 1 & 2.
    Mae Delyth yn ymweld ag Ynys y Ddraig ond yn darganfod bod ei chefnder Dilwyn ar goll! Wrth i Delyth fynd ar ei hynt drwy’r jyngl i ddod o hyd iddo, mae angen eich help chi arni i oresgyn y sialensiau sydd o’i blaen. Allwch chi ei helpu i archwilio deunyddiau naturiol a deunyddiau sydd wedi eu gwneud a datrys y problemau sy’n ei rhwystro? Helpwch Delyth i ddod o hyd i’r ogof cyn i Rugworse Arswydus ddychwelyd i fwyta Dilwyn i de!

    Cefnogwyd gan Dow Corning

    Goleuadau y Nos

    Addas i ddosbarth derbyn a blynyddoedd 1 & 2.
    Mae ar Dyfrig y draenog ofn goleuni'r nos sy'n dod o bell, bell i ffwrdd. Allwch chi helpu Delyth i astudio awyr y nos er mwyn annog ei ffrind Dyfrig i oresgyn ei ofnau? Darganfyddwch pam ein bod yn cael nos a dydd, a beth sy'n achosi cysgodion. Darganfyddwch pam mai dim ond yn ystod y nos y mae rhai anifeiliaid yn dod allan, tra bod eraill yn dod allan yn ystod y dydd. Ar ôl hynny, bydd Delyth yn helpu i'ch tywys drwy'r gwahanol gytserau y gallwch eu gweld yn ffurfafen y nos.

    Achub y Tymhorau (Newydd, Ionawr 2013)

    Addas i ddosbarth derbyn a blynyddoedd 1 & 2.
    Mae Sioni Rhew wedi swyno’r goedwig ac mae hi bellach yn aeaf bob diwrnod! Ble mae’r tymhorau eraill wedi mynd? Helpwch Delyth y ddraig a’i ffrindiau o’r goedwig i ddod o hyd i ffordd i dorri’r swyn a dod â’r haf, gwanwyn a’r hydref yn ôl. Drwy weithgareddau rhyngweithiol, ystyriwch sut y mae pob tymor yn effeithio ar y goedwig a’r anifeiliaid a’r planhigion sy’n byw yno.

    Maths Parti

    Addas i blynyddoedd 1 & 2.
    Mae ffrindiau Delyth am drefnu parti iddi, ond mae angen eich help arnyn nhw! Allwch chi ddefnyddio eich sgiliau mathemateg i weithio allan beth fyddai'r amser gorau ar gyfer y parti a chreu gemau parti dilyniant cyffrous i'w defnyddio fel addurniadau? Gwnewch yn siŵr fod digon o fisgedi, malws melys a brechdanau i holl westeion Delyth, a gweithiwch allan faint fydd y bwyd a'r ddiod yn ei gostio. Pa ddarnau arian y bydd angen i chi eu gwario a pha newid gewch chi? Dewch yn rhan o siart bar pobl a threfnwch gynllun eistedd er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael amser wrth eu bodd yn y parti!

This web site would like to use cookies to store information on your computer, to improve our website. Cookies used for the essential operation of the site have already been set.

To find out more about the cookies we use and how to delete them, see our privacy policy.

continue

EU Cookie Directive Module Information