Cyfleusterau
Mae Techniquest yn gyrchfan wych ar gyfer y teulu cyfan, sy’n cynnig popeth sydd ei angen arnoch am ddiwrnod allan dan yr unto. Ceir yr ardal arddangos ryngweithiol, Theatr Wyddoniaeth, Planetarium, a Labordy. Mae staff Techniquest wrth law i gynnig help a chefnogaeth i’r holl ymwelwyr. Ceir mynediad cadair olwyn cyfleus, toiledau anabl a lifft i bob rhan o’r adeilad.
Ceir caffi yn Techniquest sy'n cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, brechdanau, byrbrydau a phrydau poeth. Ceir siop sy’n cynnwys teganau, llyfrau ac anrhegion diddorol.




