Siop Techniquest
Mae Siop Techniquest yn orlawn o deganau rhyfeddol sy’n addysgol ac yn hwyl i chwarae â hwynt. Ceir popeth o becynnau o sticeri i gadw bysedd y rhai bychain yn brysur, hyd at setiau electronig ar gyfer egin beirianyddion a dylunwyr. P’un a ydych eisiau tyfu planhigion sy’n bwyta pryfed, gwneud model, neu ganfod llyfr neu anrheg, mae yma rywbeth ar eich cyfer chi. Efallai y bydd gan yr oedolion fwy o ddiddordeb yn y gemfeini a mineralau disglair yn cynnwys mwclisau, breichledau a chlustdlysau o steil.
Gyda phrisiau yn amrywio o ugain ceiniog i ddeugain punt ceir rhywbeth yn llythrennol i siwtio pob poced.
Mae’r siop hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o bosteri addysgol ac adnoddau eraill i’w defnyddio yn y dosbarth. Mae croeso i athrawon ffonio am ragor o wybodaeth.
Gallwch alw i mewn i’r siop yn ystod yr oriau agor – hyd yn oed pan nad oes gennych amser i aros i fwynhau gweddill yr adeilad.




